Y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr

English

Polisi preifatrwydd PISA 2018

Y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) yw astudiaeth addysg ryngwladol fwyaf y byd, sy’n cynnwys ysgolion a disgyblion mewn dros 80 o wledydd. Cyflwynwyd PISA 2018 yn y DU gan y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg (NFER) ar ran Llywodraeth Cymru, yr Adran Addysg yn Lloegr, Llywodraeth yr Alban a'r Adran Addysg yng Ngogledd Iwerddon.

Mae canfyddiadau astudiaethau PISA yn darparu data o ansawdd uchel, y gellir ei gymharu'n rhyngwladol, i lywio polisi addysg yn y DU a ledled y byd. Gellir eu defnyddio i wella dysgu ac addysgu mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth a mathemateg a darparu mewnwelediadau gwerthfawr i ffactorau cefndir fel agweddau disgyblion, adnoddau ysgol, arferion a chymwysterau addysgu a sut maent yn cysylltu â chyflawniad disgyblion.

Trwy PISA mae gwledydd yn gallu cymharu data disgyblion heddiw â data disgyblion mor bell yn ôl â'r flwyddyn 2000. Mae'r set ddata gyfoethog yn y DU yn ogystal ag yn rhyngwladol wedi darparu cipolwg gwerthfawr ar ein system addysg.

Cyhoeddwyd adroddiadau cenedlaethol PISA 2018 ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ar 3 Rhagfyr 2019 ynghyd â chronfa ddata ac adroddiad rhyngwladol yr OECD. Ysgrifenwyd adroddiad yr Alban gan Lywodraeth yr Alban.  

I weld yr adroddiadau cenedlaethol a’r papurau briffio sy’n cyflwyno crynodeb o’r canfyddiadau allweddol ar gyfer Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, ewch i PISA 2018 National Reports.

Hoffem ddiolch i’r holl ddisgyblion, athrawon ac ysgolion a gymerodd rhan mewn PISA 2018, gan gynrychioli gwledydd y DU. Bydd yr ysgolion hynny yn derbyn adroddiadau adborth ym mis Rhagfyr 2019.

 

;