PISA 2018: o safbwynt ysgolion
Monday 2 December 2019
Yn 2001, enillodd y Geiriadur Rhyngwladol Terminoleg Addysg (os nad oes cyfrol o'r fath yn bodoli, fe ddylid creu un) ymadrodd newydd. Tarodd sioc PISA (enw, effaith canlyniadau gwlad yn y Rhaglen Ryngwladol ar gyfer Asesu Myfyrwyr newydd nad yw'n cyfateb i ganfyddiad y wlad honno o'i system addysg) nifer o wledydd yn arbennig o galed, yr Almaen yn nodedig yn eu plith, ac arweiniodd at gryn bwyso a mesur ymhlith llunwyr polisi ledled y byd.
Ar hyn o bryd mae systemau addysg yn paratoi eu hunain ar gyfer y ffrwydriad PISA diweddaraf. Bydd canlyniadau profion PISA 2018 yn cael eu cyhoeddi ar 3 Rhagfyr. Safodd 600,000 o bobl ifanc 15 oed mewn 79 o wledydd y prawf hwn. Bydd y data yn cael ei ddehongli gan arbenigwyr o Albania i Viet Nam. Darllen yw’r prif ffocws y tro hwn, a bydd y canlyniadau'n rhoi cipolwg grymus ar ba mor dda y mae pobl ifanc ledled y byd yn cael eu paratoi ar gyfer eu bywydau yn y dyfodol.
Mae’r profion PISA yn asesu gwybodaeth a sgiliau digyblion yn y pynciau canlynol(darllen, mathemateg, gwyddoniaeth, llythrennedd ariannol a ‘cymwyseddau byd-eang’), ynghyd â’u gallu i gymhwyso eu meddwl. Bwriad y profion yw helpu llunwyr polisi ac unrhyw un arall sydd â diddordeb mewn addysg i ateb tri chwestiwn:
- A yw ysgolion yn paratoi pobl ifanc yn ddigonol ar gyfer bywyd fel oedolion?
- Pa fath o amgylcheddau dysgu sy’n bodoli mewn gwledydd sy'n perfformio'n dda?
- A all ysgolion wella dyfodol disgyblion o gefndiroedd difreintiedig?
Mae'r rhain yn gwestiynau pwysig. Dros y deunaw mlynedd diwethaf mae'r OECD (sy'n gweinyddu'r profion) wedi creu data cynyddol ac wedi’i ddefnyddio yn sail i geisio ateb y cwestiynau hynny. Er enghraifft, mae'r canfyddiadau'n awgrymu bod arian yn bwysig – er nad yn ateb i bopeth, a bod canlyniadau'n tueddu i lefelu ar ôl cyrraedd lefel penodol o wariant. Ymddengys nad oes cydberthynas uniongyrchol rhwng yr amser y mae disgyblion yn ei dreulio yn yr ysgol a'u canlyniadau dysgu (ar lefel genedlaethol) - yr hyn sy'n bwysig yw a dreulir yr amser hwnnw’n gynhyrchiol. Ac mae'n ymddangos bod rhai gwledydd yn gwneud yn llawer gwell dros eu disgyblion difreintiedig na gwledydd eraill. Yn rhyfedd ddigon, yn 2012, perfformiodd y disgyblion mwyaf difreintiedig yn Shanghai cystal ar y prawf mathemateg â’r disgyblion lleiaf difreintiedig yn UDA.
Yn ddiau, mae canfyddiadau o'r fath yn codi llawer mwy o gwestiynau nag y maen nhw'n eu hateb. Faint o arian sy'n ddigonol - ac a yw hynny'n amrywio rhwng gwledydd? Beth yw ystyr‘amser cynhyrchiol’ yn yr ystafell ddosbarth mewn gwirionedd - ac a yw hyn yn golygu'r un peth mewn gwahanol gymdeithasau a diwylliannau? Beth sy’n gyfrifol am ganlyniadau mathemateg Shanghai?
Efallai y maddeuir i arweinwyr ysgolion a cholegau ledled y DU, sy'n ei chael hi'n anodd dygymod ag wythnosau hir a thywyll olaf yr Hydref, am iddynt roi dim ond cipolwg dros y canlyniadau ar 3 Rhagfyr cyn dychwelyd i’w dyletswyddau beunyddiol. Ar sawl golwg mae’n ddealladwy y byddant yn cwestiynu'r pwysau a roddir ar yr asesiadau hyn. Ers cryn amser, bu ASCL o’r farn bod yn rhaid inni osgoi rhoi gormod o bwysau ar unrhyw un mesur, neu set gul o fesurau, wrth farnu ein hysgolion a’n cholegau.
Mae canolbwyntio gormod ar unrhyw is-set fach o ddata yn beryglus, nid yn unig am y gallai hynny roi darlun ffug o effeithiolrwydd ysgol, ond gall hefyd arwain at benderfyniadau annoeth o ran y ddarpariaeth addysgol, wrth i ysgolion ymdrechu i gyflawni'r mesurau gofynnol ar draul pethau eraill, allai fod yr un mor bwysig iddynt eu cyflawni.
Fel yn achos ysgolion unigol, felly hefyd gyda systemau addysg. Heb os, mae'r profion PISA yn dweud rhywbeth wrthym, a rhywbeth defnyddiol, am safon yr addysg yn y gwledydd sy'n cymryd rhan. Mae'r cyfle i feincnodi perfformiad un wlad yn erbyn 78 gwlad arall yn werthfawr, mewn oes lle bydd llawer o'r bobl ifanc sy'n gadael ein hysgolion a'n colegau yn 16 neu 18 oed yn cystadlu am swyddi gydag eraill o bob cwr o'r byd.
Ond mae'n rhaid i ni, ac yn bwysicach fyth y rhai sy’n llunio polisi ac yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar y canlyniadau hyn, fod yn wyliadwrus ynglŷn â sut yr ydym yn dehongli, deall, ac yn ymateb i'r canfyddiadau a ddaw i’r amlwg pan agorir yr amlen yn cynnwys canlyniadau PISA yr wythnos nesaf. Yn union fel nad yw canlyniadau TASau neu ganlyniadau TGAU yn diffinio ysgol, nid yw canlyniadau PISA yn diffinio gwlad.
Dylem drin y canlyniadau fel cyfle i feddwl yn ddwfn am yr hyn rydyn ni ei eisiau i'n pobl ifanc, archwilio'r cwestiynau a gyfyd o’r canlyniadau, a’u defnyddio i ychwanegu at y wybodaeth sydd gennym eisoes am ein systemau addysg ein hunain. Gadewch inni symud y tu hwnt i ymatebion byr-fyfyr a ‘sioc PISA’, ac annog ymateb pwyllog, meddylgar i’r hyn sydd, wedi’r cyfan, yn un darn o wybodaeth ymhlith llawer.
Cyfarwyddwr polisi ASCL yw Julie McCulloch.
Gweinyddwyd yr arolwg ar ran DfE (Lloegr), Adran Addysg (Gogledd Iwerddon), Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban. Fodd bynnag, nid yw’r cyhoeddiad hwn o reidrwydd yn adlewyrchu barn yr adrannau hyn.